#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-756

Teitl y ddeiseb: Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd camau i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Rydym yn gofyn yn benodol i’r Cynulliad gyflwyno’r egwyddor o ‘asiant dros newid’ sy’n sicrhau mai’r rhai sy’n datblygu unrhyw eiddo newydd sy’n gyfrifol am ddatrys problemau’n ymwneud â sŵn o fusnesau gerllaw sydd wedi’u sefydlu’n barod. Rydym yn galw ymhellach ar y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu i ganiatáu i awdurdodau lleol gydnabod ardal o ‘arwyddocâd diwylliannol cerddorol’ fel rhan o’r fframwaith cynllunio.

Mae’r egwyddor o ‘asiant dros newid’ wedi’i mabwysiadu yn Lloegr ac mae’n diogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw sydd wedi’u sefydlu eisoes drwy sicrhau mai’r person neu’r busnes sy’n gyfrifol am unrhyw newid sydd hefyd yn gyfrifol am reoli effaith y newid hwnnw. Felly, os caiff tai neu westy eu codi’r drws nesaf i leoliad cerddoriaeth fyw, cyfrifoldeb y datblygwr, yn hytrach na’r lleoliad cerddoriaeth fyw, yw lleihau effaith y sŵn. Os na chaiff yr egwyddor o asiant dros newid ei mabwysiadu yng Nghymru, bydd datblygiadau newydd yn bygwth lleoliadau cerddoriaeth fyw. Dyma sy’n digwydd ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd, lle bwriedir adeiladu gwesty newydd. Yn ogystal â hyn, ar hyn o bryd mae Maer Llundain yn cynnig cydnabod rhannau o Lundain fel ‘ardal o arwyddocâd diwylliannol cerddorol’. Rydym yn credu y dylai awdurdodau lleol Cymru fedru dewis gwneud hyn hefyd, yn enwedig yn achos lleoedd fel Stryd Womanby, lle dechreuodd gyrfa cynifer o gerddorion Cymru.

Casglodd y ddeiseb 5,383 o lofnodion.

Cefndir

Egwyddor yr asiant dros newid

Mae ‘Asiant dros newidyn egwyddor sy’n cael ei hyrwyddo gan y diwydiant cerddoriaeth byw fel modd o ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth presennol rhag cau.

Dadleuir bod awdurdodau lleol yn tueddu i gefnogi cwynion gan drigolion mewn datblygiadau newydd am lefelau sŵn o leoliadau cerddoriaeth sefydliedig yn y cyffiniau. Mae hyn wedi cael ei nodi fel ffactor o bwys wrth i nifer o leoliadau gau ar draws y DU yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae egwyddor yr asiant dros newid yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i’r person neu’r busnes sy’n gyfrifol am y newid hefyd fod yn gyfrifol am reoli effaith y newid. Byddai hyn yn golygu, yn achos cerddoriaeth fyw, y byddai angen i ddatblygwr adeilad preswyl newydd ger lleoliad cerddoriaeth presennol gynnwys dulliau gwanhau sŵn priodol.

Mewn amgylchiadau croes i hynny, lle y mae lleoliad cerddoriaeth newydd arfaethedig ger adeilad preswyl presennol, yna yr asiant dros newid, sef y lleoliad cerddoriaeth, y byddai angen iddo sicrhau ei fod yn cynnwys mesurau priodol i leihau sŵn.

Mae cynigwyr o ran asiant dros newid yn datgan bod hyn yn wahanol i’r sefyllfa bresennol, sy’n nodi mai pwy bynnag yr adroddir yn ei gylch ei fod yn achosi niwsans sy’n gyfrifol am y niwsans hwnnw bob amser. Caiff y safbwynt hwn ei gynnal heb ystyried pa mor hir y mae’r sŵn yr ystyrir ei fod yn ‘niwsans’, wedi bodoli, enghreifftiau hanesyddol o’r un sŵn yn creu niwsans, neu a yw rhywun wedi symud i ardal y sŵn a hwythau’n gwybod yn iawn am fodolaeth y sŵn.

Mae’r Music Venue Trust  yn datgan bod y dull asiant dros newid wedi’i dreialu’n llwyddiannus yn Awstralia, ac wedi arwain at ganlyniadau cynllunio gwell, a gwell lleoliadau cerddoriaeth, ac at y ffaith bod pobl yn rhoi mwy o ystyriaeth i’w cymdogion.

Polisi Cynllunio Cymru

Nid yw polisi cynllunio cenedlaethol Cymru yn cyfeirio’n benodol at yr egwyddor o asiant dros newid nac at arwyddocâd diwylliannol lleoliadau cerddoriaeth fyw. Mae’n datgan, fodd bynnag, bod sŵn yn ystyriaeth berthnasol ar gyfer penderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio, gan gynnwys ar gyfer cynigion i ddefnyddio neu ddatblygu tir ger ffynhonnell sŵn bresennol.

Mae Polisi Cynllunio Cymru - Rhifyn 9, Tachwedd 2016 yn datgan (polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru):

13.15.1 Gall sŵn fod yn ystyriaeth gynllunio berthnasol, er enghraifft mewn cynigion i ddefnyddio neu ddatblygu tir ger ffynhonnell sŵn sydd eisoes yn bodoli, neu lle y bydd datblygiad newydd arfaethedig yn debygol o greu sŵn. Dylai awdurdodau cynllunio lleol gynnal asesiad gofalus o’r lefelau tebygol o sŵn, ac ystyried unrhyw Gynllun Gweithredu ynghylch Sŵn sy’n berthnasol, cyn penderfynu ar geisiadau cynllunio o’r fath, ac mewn rhai amgylchiadau bydd angen i’r datblygwr ddarparu asesiad technegol o sŵn … ...

Mae Nodyn Cyngor Technegol 11: Sŵn (1997) yn rhoi cyngor pellach:

Datblygiad sy’n sensitif i sŵn

10. Dylai’r awdurdodau cynllunio lleol ystyried a fyddai cynigion ar gyfer datblygu sy’n sensitif i sŵn yn anghydnaws â gweithgareddau sy’n bodoli eisoes, gan gymryd i ystyriaeth lefel y datguddiad i sŵn adeg y cais ac unrhyw gynnydd y byddai’n rhesymol ei ddisgwyl yn y dyfodol hyd y gellir rhag-weld. Ni ddylai datblygu o’r fath fel rheol gael ei ganiatáu mewn ardaloedd sydd, neu y disgwylir iddynt ddod, yn destun lefelau sŵn annerbyniol o uchel ac ni ddylid eu caniatáu fel rheol lle bydd lefelau sŵn uchel yn parhau drwy’r nos.

Ysgrifennodd Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith at y Pwyllgor Deisebau ar 23 Ebrill 2017. Roedd ei lythyr yn datgan:

Existing policy in Planning Policy Wales already has a similar approach to the agent of change principle, in saying that new uses should not be introduced into an area without consideration of the existing uses. Ensuring effective noise mitigation is implemented as part of a new development, where appropriate, is also part of this approach. It is also already open to local planning authorities to consider compatibility of uses in areas and afford appropriate protection where they consider it necessary, as part of their Local Development Plans. …...

Mae Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn datgan:

5.181 Gall sŵn gael effaith niweidiol ar iechyd ac ansawdd bywyd pobl. Gall datblygiadau megis tai, ysgolion ac ysbytai fod yn arbennig o sensitif i sŵn, yn debyg i ardaloedd o dirlun, natur neu bwysigrwydd treftadaeth adeiledig. Lle bo’n bosibl, dylid lleoli datblygiadau newydd sy’n arbennig o sensitif i sŵn i ffwrdd oddi wrth ffynonellau cyfredol neu debygol o sŵn sylweddol. Gellir hysbysur asesiad yma gan fanylion cwynion am sŵn syn cael eu casglu gan y Cyngor yn rhan o fenter barhaus i ostwng niwsans sŵn.

Y Polisi Cynllunio yn Lloegr

Fel sy’n wir yng Nghymru, nid yw polisi cynllunio cenedlaethol Lloegr yn cyfeirio’n benodol at yr egwyddor o asiant dros newid neu arwyddocâd diwylliannol lleoliadau cerddoriaeth fyw. Fodd bynnag, mae’n cynghori y dylai polisïau a phenderfyniadau cynllunio gydnabod na ddylai cyfyngiadau afresymol gael eu rhoi ar fusnesau presennol oherwydd newidiadau o ran defnydd y tir cyfagos iddynt.

Mae’r Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol (NPPF) (Saesneg yn unig) (Polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr) yn nodi:

123. Planning policies and decisions should aim to: …

recognise that development will often create some noise and existing businesses wanting to develop in continuance of their business should not have unreasonable restrictions put on them because of changes in nearby land uses since they were established; …

Mae’r canllawiau arferion cynllunio cysylltiedig ar sŵn yn datgan:

The potential effect of a new residential development being located close to an existing business that gives rise to noise should be carefully considered. This is because existing noise levels from the business even if intermittent (for example, a live music venue) may be regarded as unacceptable by the new residents and subject to enforcement action. To help avoid such instances, appropriate mitigation should be considered, including optimising the sound insulation provided by the new development’s building envelope. In the case of an established business, the policy set out in the third bullet of paragraph 123 of the Framework should be followed [i.e. that quoted above].

Mae’r canllawiau o ran arferion hefyd yn datgan:

When assessing whether a statutory nuisance exists, local authorities will consider a number of relevant factors, including the noise level, its duration, how often it occurs, the time of day or night that it occurs and the ‘character of the locality’. The factors influencing the ‘character of the locality’ may include long-established sources of noise in the vicinity – for example, church bells, industrial premises, music venues or public houses.

Ynghylch polisi cynllunio yn Lloegr, mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn datgan:

In England there was a commitment given in the UK Government’s Housing White Paper (published 7 February 2017) to amend the National Planning Policy Framework (NPPF) in England to emphasise that account should be taken of existing businesses, such as music venues. This followed earlier changes to secondary legislation made in England to allow a number of commercial types and uses to be converted into residential properties without the need for planning permission ...

Mae’n mynd ymlaen i ddweud bod y newid hwn:

… has caused problems for live music venues in England. These changes to secondary legislation were not made in Wales and planning permission is still required before the commercial uses of buildings can be changed into residential ones.

Mae Sadiq Kahn, Maer Llundain, wedi ymrwymo eisoes i gyflwyno rheol o ran asiant dros newid i Gynllun Llundain a fyddai’n sicrhau mai datblygwyr tai ger lleoliadau hamdden presennol sy’n gyfrifol am reoli sŵn.

Cyn cyhoeddi Cynllun Llundain newydd yn yr hydref, cyhoeddwyd Canllaw Cynllunio Atodol Drafft ar Ddiwylliant ac Economi’r Nos (PDF 5.13MB) (Saesneg yn unig) ar gyfer ymgynghori yn ei gylch. Mae’r ddogfen yn dweud y dylai cynigion datblygu:

… should seek to manage noise without placing unreasonable restrictions on development or add unduly to the costs and administrative burdens of existing businesses.

Cultural venues should remain viable and continue in their present form, without the prospect of neighbour complaints, licensing restrictions or the threat of closure..

Mae hefyd yn pwysleisio bod polisi presennol Cynllun Llundain yn dweud y dylai cynigion datblygu geisio rheoli sŵn, gan gynnwys drwy:

... mitigating and minimising adverse impacts without placing unreasonable restrictions on development or adding unduly to the costs and administrative burdens of existing businesses.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Llythyr Ysgrifennydd y Cabinet

Yn ychwanegol at y sylwadau uchod, mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod swyddogion wedi cwrdd â’r Ymddiriedolaeth Lleoliad Gerdd ac eraill i drafod egwyddor asiant dros newid. Dywed fod swyddogion yn edrych ar sut y gall hyn gael ei adlewyrchu’n well ym Mholisi Cynllunio Cymru, a sut y gall mesurau anneddfwriaethol eraill gael eu defnyddio i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r achos penodol yn ymwneud â Stryd Womanby, Caerdydd, wedi cael ei godi ddwywaith yn Siambr y Cynulliad gan Neil McEvoy AC.

Ar 4 Ebrill 2017 dywedodd Neil McEvoy AC:

Ysgrifennydd y Cabinet, ardal sy’n enwog ledled Cymru am gerddoriaeth fyw yw Stryd Womanby, ac rwy’n siwr fod llawer ohonom yn y Siambr hon wedi treulio rhai nosweithiau hwyr iawn mewn mannau fel hyn. Mae llawer o gerddorion enwog wedi dechrau ar eu gyrfaoedd yn Stryd Womanby. Cenedl gerddorol yw Cymru a cherddoriaeth yw curiad ei chalon. A churiad calon y ddinas hon hefyd, ac mae angen i ni annog cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd a ledled Cymru. Ond y broblem yn syml yw nad ydyw’r gyfundrefn gynllunio bresennol yn gwneud hynny, oherwydd mae’n caniatáu i adeiladau gael eu datblygu weithiau mewn lleoliadau sy’n agos iawn at fan lle ceir cerddoriaeth fyw. Yna, pan fydd rhywun yn cwyno, bydd yn rhaid i’r man hwnnw gau am byth. Felly, gallai man i glywed cerddoriaeth fyw, fel yr un yn Stryd Womanby, fod yno am 35 mlynedd. Gall datblygiad ddigwydd y drws nesaf, gall fflat gael ei gynnwys yn yr adeilad, a bydd hynny’n ddigon i gyfiawnhau cau’r gyrchfan i glywed cerddoriaeth fyw. Nawr, yr hyn sydd ei angen yng Nghymru yw nodi’r egwyddor o asiant newid yng ngeiriad cyfraith cynllunio. Mae ‘na ddeiseb, ac rwy’n deall bod mwy na 3,000 o bobl wedi ei llofnodi. Mae ‘na ddatganiad barn hefyd, ac rwyf wedi ei chynnwys, a byddwn yn annog pob AC sydd yma i lofnodi’r ddeiseb honno. Nawr, yr hyn sydd angen ei wneud yw dynodi mannau fel Stryd Womanby yn ganolfannau diwylliannol, y mae angen eu diogelu drwy gyfraith cynllunio. Mae Maer Llundain yn gwneud hynny, felly a fydd eich Llywodraeth chi? Drosodd atoch chi, Gweinidog.

Ymatebodd Jane Hutt AC, Arweinydd y Tŷ gan ddweud:

Mae’r Aelod wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cerddoriaeth fyw yng Nghymru, y mae llawer ohonom, wrth gwrs, wedi ei mwynhau mewn mannau cyhoeddus a phreifat ledled Cymru, ac rydych yn tynnu sylw at un ohonyn nhw yma yn y brifddinas, yng Nghaerdydd. Yn wir, rydych yn dweud hefyd bod deiseb ynglŷn â’r mater hwn i’w gyflwyno, ac rwy’n siŵr y bydd y Pwyllgor Deisebau yn ymdrin â hynny ac yn gwneud yn siŵr ei fod wedyn yn derbyn ein sylw ni.

Roedd y Datganiad Barn y cyfeirir ato uchod wedi’i godi gan Neil McEvoy AC a Simon Thomas AC ac mae’n nodi:

Mae’r Cynulliad hwn:

Yn cydnabod y bygythiad i leoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru.

Yn cydnabod y rhan unigryw y mae Stryd Womanby yn ei chwarae o ran cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd.

Yn nodi’r nifer sylweddol o artistiaid sydd wedi dechrau eu gyrfaoedd yn chwarae mewn lleoliadau yn Stryd Womanby.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r egwyddor o asiant dros newid i Gymru fel bod angen i ddatblygwyr ganfod atebion i sŵn o fusnesau gerllaw sydd eisoes yn cynnal digwyddiadau.

Ar adeg ysgrifennu’r papur ymchwil hwn roedd y Datganiad Barn wedi cael ei lofnodi gan saith Aelod Cynulliad arall.

Ar 5 Ebrill, 2017 gwnaeth Neil McEvoy AC, ddatganiad 90 eiliad:

Diolch, Lywydd. Mae tair mil a hanner o bobl bellach wedi llofnodi’r ddeiseb i’r Cynulliad hwn yn galw arnom i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Dechreuwyd y ddeiseb honno gan yr arweinydd a’r cyfansoddwr, Richard Vaughan. Y broblem yw bod dau gynnig i ddatblygu yn stryd cerddoriaeth fyw enwocaf Cymru, Stryd Womanby, ac mae’r datblygiadau yn fygythiad i’r lleoliadau cerddoriaeth oherwydd y deddfau cynllunio gwan sydd gennym yng Nghymru. Yn Lloegr, mae ganddynt egwyddor o asiant dros newid, sy’n golygu bod angen i ddatblygiadau newydd addasu i leoliadau cerddoriaeth fyw sy’n bodoli eisoes ac nid y ffordd arall. Mae’n amser i ni feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud, ac mae angen i bobl o bob plaid wleidyddol fynd ati i amddiffyn lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Dylai’r cynigion ar gyfer Stryd Womanby gael eu gwrthod oni bai bod gwarantau cadarn na fydd y safleoedd cerddoriaeth fyw presennol yn cael eu heffeithio. Mae angen i’n Senedd wrando ar y miloedd o bobl sydd wedi rhoi amser i arwyddo’r ddeiseb, oherwydd mae angen newid yn y gyfraith gynllunio, ac rwy’n galw ar bawb sy’n bresennol i sicrhau ein bod yn newid y gyfraith yma yng Nghymru ac yn amddiffyn ein lleoliadau cerddoriaeth fyw. Diolch.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.